Teyrnged yn dilyn marwolaeth beiciwr o Ben-y-bont

Damien Williamson Image copyright Other
Image caption Dywedodd teulu Mr Williamson ei fod yn "fodlon helpu unrhywun".

Mae teulu dyn 24 oed fu farw mewn damwain ffordd ddydd Llun wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Damien Williamson o Ben-y-bont ar Ogwr yn y fan a'r lle wedi i'w feic modur fod mewn gwrthdrawiad â fan wersylla y tu allan i Grochendy Ewenni ym Mro Morgannwg

Mewn datganiad dywedodd teulu Mr Williamson ei fod yn "rhywun oedd yn fodlon helpu unrhywun".

Ychwanegodd y teulu ei fod yn ddyn caredig a bod pawb oedd ymwneud ag ef yn ei hoffi.

Dylai unrhywun â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru ar 02920 633438 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.