BBC Cymru Fyw

Cleverly'n tynnu allan o ornest ym mis Ebrill

Published
image copyright(C) British Broadcasting Corporation
image captionMae Cleverly wedi ennill 24 gornest ac heb golli un
Mae Nathan Cleverly wedi penderfynu tynnu allan o ornest is-drwm WBO y byd ym mis Ebrill.
Ei wrthwynebydd i fod oedd Robin Krasniqi o Serbia yn Neuadd Albert ar Ebrill 28.
Dywedodd y Cymro 25 oed o Gefn Fforest ger y Coed-duon: "Dwi ddim wedi bod yn hyfforddi oherwydd feirws.
"A bod yn onest, does dim digon o amser i adennill tir wedi'r oriau o hyfforddi dwi wedi eu colli."
Dyw hi ddim yn glir eto a fydd dyddiad yr ornest yn cael ei newid neu a fydd yn gorfod wynebu Dmitry Sukhotsky o Rwsia.
"Dwi wedi derbyn cyngor y doctor, gorffwys yn llwyr cyn ailddechrau hyfforddi."
Dywedodd ei fod yn siomedig iawn. "Roeddwn i'n edrych ymlaen at roi paffio ar y map yn Neuadd Albert, y tro cynta ers mwy na 10 mlynedd."
Mae Cleverly wedi ennill 24 gornest ac heb golli un.

Straeon perthnasol

  • Nathan Cleverly yn parhau'n bencampwr byd