Gwrthdrawiad: Ffordd wedi ailagor

Map o'r ardal Image copyright bbc

Mae'r gwasanaethau brys wedi cael eu galw wedi gwrthdrawiad rhwng dwy lori fawr yng Ngwynedd.

Roedd hyn ar yr A494 ger Bont Newydd rhwng Dolgellau a Llanuwchllyn.

Mae un person wedi cael ei gludo i'r ysbyty a chriwiau tân o Ddolgellau a'r Bala ar y safle ar hyn o bryd.

Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 9:05am fore Mercher.

Bu'r A494 ar gau i'r ddau gyfeiriad am rai oriau gan achosi oedi sylweddol i drafnidiaeth rhwng yr A470 (Dolgellau) a'r B4403 (Llanuwchllyn), ond mae'r ffordd bellach wedi ailagor.