Carcharor: Heddlu'n apelio

  • Cyhoeddwyd
Joshua MorrisFfynhonnell y llun, Other

Mae'r heddlu yn Abertawe yn apelio am wybodaeth gan y cyhoedd am ddyn 22 oed, Joshua Morris.

Cafodd Morris o Heol y Gog, Tregŵyr, ei rhyddhau o garchar ar drwydded ond ers hynny mae wedi torri'r amodau.

Mae'n 5'11" o daldra gyda gwallt byr brown a llygaid brown.

Wrth apelio i'r cyhoedd am wybodaeth, dywedodd yr heddlu y dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu gyda'r heddlu yn Abertawe ar 101 neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.

Maen nhw hefyd wedi apelio ar Morris i ildio'i hun yn yr orsaf heddlu agosaf.