Gohirio achos car Yr Wyddfa

  • Cyhoeddwyd
Cerbyd ar Yr WyddfaFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,
Mae wedi ei gyhuddo o yrru'r Vauxhall Frontera i gopa'r Wyddfa ddwywaith

Mae achos dyn ar gyhuddiad o yrru'n beryglus ar fynydd uchaf Cymru wedi cael ei ohirio tan fis Awst.

Honnir i Craig Williams, 39 oed, yrru i fyny'r Wyddfa ddwywaith ac roedd yr achos i fod i ddechrau yng Nghaernarfon ddydd Mercher.

Cafodd yr achos ei ohirio oherwydd diffyg amser.

Dywedodd y Barnwr Niclas Parry, yn eistedd yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, y byddai'n gohirio'r achos tan Awst 15.

Mae'r diffynnydd, sy'n byw yn Cheltenham, wedi ei gyhuddo o yrru cerbyd gyriant pedair olwyn i fyny'r Wyddfa ddwywaith ym mis Medi'r llynedd.

Eisoes mae wedi gwadu'r ddau gyhuddiad.

Dywedodd ei fargyfreithiwr Brian Treadwell nad oedd ei gleient yn bresennol yn y llys.

Nid oedd ganddo ddigon o arian i deithio i'r llys, meddai, ac roedd wedi poeni y byddai'r achos yn cael ei ohirio ac nad oedd yn medru teithio i'r Wyddgrug.

Cafodd ei esgusodi rhag bod yn bresennol gan weinyddwyr y llys.