Neidr wenwynig yn brathu dyn

Wiber Image copyright Other
Image caption Cafodd y dyn ei frathu bedwar gwatih.

Mae yna rybudd i bobl gymryd gofal pe bai nhw'n dod i gysylltiad gyda nadroedd.

Daw'r rhybudd ar ôl i ddyn gael ei frathu gan neidr wrth chwarae gyda'i gi mewn gardd yn Llanrug, ger Caernarfon.

Mae'n debyg i'r ci aflonyddu ar y neidr.

Ceisiodd y dyn symud y neidr oddi wrth y ci ond cafodd ei frathu ar ei law dde.

Yna wrth geisio symud y neidr o'r ardd gan ei roi mewn clustog cafodd ei frathu deirgwaith eto.

Aed â'r dyn i Ysbyty Gwynedd a chafodd yr RSPCA eu galw i symud y neidr oedd mewn clustog yng nghar y dyn.

16 modfedd

Cafodd y neidr 16 modfedd o hyd, rhwng dwy a thair oed, ei ryddhau yn ôl i'r gwyllt.

Dywedodd Andy Broadbent o'r RSPCA: "Y wiber yw'r unig neidr wenwynig ym Mhrydain ond dydyn nhw ddim yn anifeiliaid ymosodol.

"Fel rheol maen nhw'n brathu pe bai rhywun yn sathru arnynt neu os ydynt wedi eu cornelu.

"Mae'r tywydd poeth yn gyfnod pan mae nadroedd i'w gweld yn fwy aml".

Mae modd cysylltu â llinell gymorth 24 awr yr RSPCA ar 0300 1234 999 pe bai chi'n gweld neidr yn yr ardd.