Cwmni adeiladu'n diswyddo 35

Barnhill Construction Image copyright Other
Image caption Un o gynlluniau mwya'r cwmni oedd codi melin bapur UPM ar Lannau Dyfrdwy

Mae 35 o bobl wedi colli eu gwaith wedi i gwmni adeiladu o Wrecsam fynd i'r wal.

Aeth cwmni Barnhill Construction i ddwylo'r gweinyddwyr ddechrau mis Ebrill ond roedd eisoes wedi rhoi'r gorau i fasnachu.

Yn 1991 y cadeirydd Rob Jones sefydlodd y cwmni yr oedd ei bencadlys ym Minera ger Wrecsam.

Roedd yn arbenigo mewn cynlluniau peirianneg sifil a chytundebau cynnal a chadw oedd yn werth hyd at £5 miliwn ar draws Gogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr.

Hefyd roedd adran weithgynhyrchu dur.

Ymhlith cleientau'r cwmni roedd Kellogg's, Cadbury's a chwmni tai Redrow, ac un o'r prosiectau mwyaf oedd melin bapur UPM ar Lannau Dyfrdwy.

Diodde'

Dywedodd Matt Dunham o gwmni gweinyddwyr Grant Thornton fod y busnes wedi diodde' oherwydd cyflwr y diwydiant adeiladu.

"Roedd y busnes wedi rhoi'r gorau i fasnachu erbyn i ni gael ein penodi," meddai, "ac, yn anffodus, fe gafodd pob un o 35 o weithwyr y cwmni eu diswyddo.

"Ein rôl dros yr wythnosau nesaf fydd ceisio gwerthu asedau'r cwmni er mwyn talu eu dyledion. Rydym yn dal i astudio'r ffigyrau."