Cyngor yn gwrthod codi tai haf
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr Sir Ddinbych wedi gwrthod cynllun oedd yn golygu codi 20 o dai haf yn Nyffryn Clwyd.
Roedd swyddogion cynllunio wedi argymell y dylid cymeradwyo'r cynllun.
Ym Mharc Glyn Llweni ger Ffordd Yr Wyddgrug yn ymyl Dinbych yr oedd y datblygiad i fod.
Yn ôl yr Ymgyrch er Diogelu'r Gymru Wledig, fe fyddai'r cynllun wedi amharu ar "dirwedd hynod heb ei hail".
Roedd llythyron dau o bobl leol wedi dweud y byddai'n golygu "mwy o swyddi yn yr ardal".
Cynaliadwyedd
Yn 2009 cafodd cais i godi 60 o dai haf ar dir yn y cyffiniau ei wrthod oherwydd apêl.
Cyn cyfarfod dydd Mercher roedd swyddogion cynllunio wrth argymell cymeradwyo wedi nodi: "Mae cynghorau bro a phobl leol wedi mynegi pryderon - a rhai wedi dweud eu bod yn poeni i raddau am yr effaith ar ffyrdd, y dirwedd, bywyd gwyllt a'r cyflenwad dŵr."
Penderfynodd y cyngor wrthod y cais oherwydd problemau'n ymwneud â chynaliadwyedd, teithio a pharcio a diffyg gwybodaeth am ansawdd tir amaethyddol.