Arddangos un o weithiau Titian yn Yr Amgueddfa Genedlaethol

Diana ac Actaeon, 1556-59 gan Titian © Yr Oriel Genedlaethol, Llundain. Image copyright Other

Fe fydd campwaith un o artistiaid pwysicaf Dadeni'r Eidal yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Bydd llun enwog Titian, Diana ac Actaeon, i'w weld yn yr amgueddfa rhwng Ebrill 19 a Mehefin 17.

Mae'r llun fel arfer yn yr Oriel Genedlaethol yn Llundain.

Orielau Cenedlaethol Yr Alban a'r Oriel Genedlaethol yn Llundain yw gydberchnogion y gwaith hynod a brynwyd dros y genedl yn 2009 am £50 miliwn, trwy gyfraniadau preifat a chyhoeddus hael.

Mae'r paentiad yn un o weithiau gorau'r artist ac yn hynod oherwydd ei faint uchelgeisiol, unoliaeth fedrus y lliwiau, testun y gwaith a'i gyflwr ardderchog.

Mae Diana ac Actaeon yn un o chwech o gynfasau mawr chwedlonol a baentiwyd gan Titian ar gyfer Philip II Brenin Sbaen.

'Prydferthwch a dyfeisgarwch'

Cafodd y gweithiau eu hysbrydoli gan waith y bardd Rhufeinig Ofydd.

Dechreuodd Titian ar y paentiad hwn a'i gymar Diana a Callisto (a brynwyd dros y genedl wedi i Ddug Sutherland gytuno ar £45m) ym 1556, blwyddyn coroni Philip.

Gyda bri nawddogaeth frenhinol yn sbardun, defnyddiodd ei ystod creadigol llawn wrth greu gweithiau llawn prydferthwch a dyfeisgarwch nas gwelwyd eu bath cyn hynny.

Bu Titian wrthi am dair blynedd yn perffeithio'r campweithiau, cyn eu cludo i Sbaen ym 1559.

Honnodd mai'r rheswm dros yr oedi oedd ei fod wedi mynd i drafferthion di-ben-draw i greu gwaith oedd yn deilwng o'r brenin.

"Rydym wrth ein bodd bod paentiad mor bwysig a phrydferth yn cael ei arddangos yma yng Nghaerdydd," meddai Anne Pritchard, Curadur Cynorthwyol Hanes Celf, Amgueddfa Cymru.

"Mae'n gampwaith o'r iawn ryw.

"Mae'n siŵr taw Diana ac Actaeon gan Titian yw'r pryniad celf mwyaf nodedig y DU yn y blynyddoedd diwethaf ac mae'n gyfle gwych i bobl gael golwg dda arno.

"Bydd yn gaffaeliad i'r casgliad celf hanesyddol yn ystod ei ymweliad ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.