Carchar am ddwyn arian elusen ei fab

  • Cyhoeddwyd
Julian EmmsFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Julian Emms wedi gwadu dwyn £16,500 o'r gronfa sefydlwyd i anfon ei fab am driniaeth arloesol yn China

Mae tad wedi cael ei garcharu am dair blynedd am ddwyn £16,500 gafodd ei godi i'w fab oedd yn marw.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd, mewn gwrandawiad blaenorol, fod Julian Emms, 46 oed o Lyn Ebwy, wedi dwyn yr arian o gronfa elusen ei fab Michael.

Roedd hyn yn golygu mai dim ond £1,300 oedd ar ôl yn y cyfrif - dim digon o arian i dalu am angladd ei fab pan fu farw'r llynedd yn 24 oed.

Ar y pryd roedd Michael yn ei arddegau ac ef oedd y person ifancaf ym Mhrydain i ddiodde' o glefyd motor niwron.

Roedd llawer o bobl wedi cynnal digwyddiadau i godi £55,000 i anfon Michael i China i gael triniaeth arloesol.

Wrth ei ddedfrydu ddydd Iau, dywedodd y Barnwr Robert Britton wrth Emms, bod hon yn drosedd "ddirmygadwy ac roedd elfen o gyfrwystra".

"Roeddech chi mewn sefyllfa o ymddiriedaeth, a'r dioddefwr oedd eich mab oedd yn dibynnu ar y gronfa yma.

"Ond roedd y golled emosiynol i gyfeillion a theulu Michael hefyd yn enfawr, a dyma oedd y brad mwyaf."

Dywedodd y barnwr nad oedd yr arian a ddygwyd gan Emms wedi cael ei atafael.

Sieciau

Yn yr achos gwreiddiol yn erbyn Emms, dywedodd yr erlynydd Meirion Davies: "Fe weithiodd llawer o bobl yn galed iawn i godi arian i'r gronfa.

"Pa fath o ddyn fyddai'n twyllo ei fab ei hun a defnyddio'r arian i'w ddibenion ei hun?

"Roedd yn weithred ffiaidd ..."

Clywodd y llys fod Emms wedi twyllo mam-gu Michael, Anne Brandon, un o'r pedwar wedi eu hawdurdodi i arwyddo sieciau'r elusen.

'Yn wag'

Ychwanegodd Mr Davies: "Roedd Emms wedi gofyn am ddwy siec i dalu am wyliau i'r Unol Daleithiau i Michael ac wedi gwneud cais am eu gadael yn wag gan nad oedd yn gwybod yr union symiau."

Ond clywodd y llys fod Emms wedi newid y siec er mwyn cael gafael ar £16,500.

Roedd gan Emms ddyled busnes o £15,000 pan gafodd y siec ei chyflwyno.

Pan fu farw Michael ym mis Ebrill y llynedd, bu'n rhaid i'r teulu gael benthyciad i dalu am ei angladd.

Wedi'r achos, dywedodd David Watts, llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron: "Bydd llawer o bobl gyfrannodd at y gronfa yn teimlo'n ddig iawn o glywed beth ddigwyddodd i'r arian y gwnaethon nhw gyfrannu'n ddidwyll."