BBC Cymru Fyw

Snwcer: Pump o Gymry yn cystadlu yn Shefield

Published
image copyrightPA
image captionJohn Higgins enillodd y gystadleuaeth yn 2011
Yn Theatr y Crucible yn Sheffield ddydd Sadwrn fe fydd Pencampwriaeth Snwcer y Byd yn cychwyn.
Yr Albanwr John Higgins yw'r pencampwr presennol ac mae 'na bump o Gymry yn cystadlu yno eleni.
Y cyn-bencampwr Mark Williams, Matthew Stevens, Dominic Dale, Ryan Day a Jamie Jones.
Fe fydd Jones yn wynebu'r cyn-bencampwr Shaun Murphy ddydd Sul.
Un o Gastell-nedd yw Jones sy'n cael ei weld fel olynnydd i Williams a Stevens.
Mae o wedi ennill nifer o gystadlaethau amatur ac ifanc gan gynnwys Pencampwriaeth Cymru san 21 oed ac ewrop o dan 19 yn 2004.
Dyma fydd y tro cyntaf iddo gystadlu ym Mhencampwriaeth y Byd yn y Crucible.
Mae'r pedwar arall yn gyfarwydd a'r neuadd yn Sheffield.
Fe fydd Stevens yn chwarae ddydd Llun wrth Dale a Day gychwyn ddydd Mawrth.
Fe fydd rhaid i Williams, a enillodd y bencampwriaeth yn 2000 a 2003 aros tan Mercher cyn cychwyn.

Dydd Sul Ebrill 22:

Shaun Murphy (Lloegr) v Jamie Jones (2.30pm)

Dydd Llun Ebrill 23:

Matthew Stevens v Marco Fu (Hong Kong) (10am)
Shaun Murphy (Lloegr) v Jamie Jones (2.30pm)
Matthew Stevens v Marco Fu (Hong Kong) (7pm)

Dydd Mawrth Ebrill 24:

Judd Trump (Lloegr) v Dominic Dale (10am)
Ding Junhui (China) v Ryan Day (10am)

Dydd Mercher Ebrill 25:

Ding Junhui (China) v Ryan Day (10am)
Judd Trump (Lloegr) v Dominic Dale (2.30pm)
Mark Williams v Liu Chuang (China) (2.30pm)

Dydd Iau Ebrill 26:

Mark Williams v Liu Chuang (China) (7pm)

Straeon perthnasol

  • Mark Williams yng nghanol ffrae