Tri Cymro'n cystadlu yn China
- Cyhoeddwyd
Mae tri o Gymru yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Golff Agored China.
Wedi'r diwrnod cyntaf o gystadlu, Matthew Baldwin o Loegr sydd ar y blaen gyda sgôr o 65 a saith ergyd yn well na'r safon.
Bradley Dredge yw'r gorau o'r tri Cymry sy'n cystadlu, yn gydradd 44 gyda sgôr o 70 a dwy ergyd yn well na'r safon.
Y ddau Gymro arall yw Jamie Donaldson a Rhys Davies.
Mae'r bencampwriaeth yn cael ei chynnal yn Tianjin tan Ebrill 22.
Canlyniadau:
Rownd 1
1-Matthew Baldwin (Lloegr) -7 (65)
Y Cymry:
44- Bradley Dredge -2 (70)
62- Jamie Donaldson -1 (71)
82- Rhys Davies cyfartal (72)