Talcen caled i Forgannwg
- Cyhoeddwyd
Mae Morgannwg wedi bod yn ymdrechu i gyfyngu ar fatwyr Sir Hampshire yn y Stadiwm Swalec ddydd Gwener.
Erbyn amser cinio roedd yr ymwelwyr wedi cyrraedd 123-7.
Walters oedd bowliwr mwyaf llwyddiannus Morgannwg gan ddisodli Adams, Dawson, Vince ac Ervine.
Roedd angen cadw'r sgôr lawr ar ôl batiad cyntaf trychinebus gan Forgannwg, gan orffen ar 103-9.
Dim ond Will Bragg, sgoriodd 45 oddi ar 92 pêl, ddangosodd y pwyll a'r dechneg i oroesi yn erbyn bowlio Hampshire.
Balcombe oedd bowliwr mwyaf llwyddiannus yr ymwelwyr gan gipio pum wiced am 33 rhediad.
Erbyn diwedd y dydd cyntaf roedd Hampshire wedi cyrraedd 29-1, ar ôl i Walters ddisodli Adams o'r cris am ddim ond 3
Morgannwg: Rees, Walters, Bragg, Wright, Allenby, Henriques, James, Wallace (c, wic), Wagg, Cosker, Waters
Morgannwg v Sir Hampshire(Diwrnod cyntaf)
Morgannwg: (Batiad cyntaf) 103 am 9
Hampshire: (Batiad cyntaf)123-7
Straeon perthnasol
- 12 Ebrill 2012