BrynFest: Llwyfan rhyngwladol i'r Cymry yn Llundain

Bryn Terfel Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Bydd BrynFest yn Southbank Llundain rhwng Gorffennaf 4 a 7 eleni

Fe fydd Cymru a'r Cymry yn amlwg iawn yn y Southbank Llundain ym mis Gorffennaf wrth i Bryn Terfel gynnal BrynFest yn y ddinas.

Bwriad yr ŵyl yw rhoi llwyfan ehangach a rhyngwladol i gerddoriaeth a thalent Cymru.

Bydd BrynFest yn cael ei gynnal rhwng Gorffennaf 4 a 7.

Ymysg y cyfranwyr Cymreig y mae cerddorfa a chorws cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, Gruff Rhys, Karl Jenkins, Bryn Terfel ei hun a Chôr Meibion Cymry Llundain.

Fe fydd yr ŵyl yn rhan o Ŵyl y Byd sy'n gysylltiedig â'r Gemau Olympaidd.

Oes Aur Broadway

"Mae'n anrhydedd i mi fedru canu blas o'm hoff gerddoriaeth yng Nghanolfan Southbank yn ystod Gŵyl y Byd," meddai Bryn Terfel.

"Mae 'na dalent gerddorol anhygoel yng Nghymru, ond nid yw bob amser yn llwyddo i deithio tu hwnt i'n ffiniau.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Nia Thomas yn holi Bryn Terfel

"Dyma beth dwi'n credu gall yr Ŵyl hon ei wneud.

"Mi fydd yr ŵyl yn gyfle godidog i bob artist sy'n rhan o BrynFest i gael cydnabyddiaeth a sylw, wrth i'r Ganolfan gyfan ddathlu cerddoriaeth a chelfyddyd o bedwar ban byd."

Mae rhai artistiaid wedi eu cadarnhau ac fe fydd mwy yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Ar Orffennaf 4 cynhelir noson i ddathlu Oes Aur Broadway a chyflwynir y perfformiad gan Siân Phillips, ac mi fydd yn cynnwys perfformiadau gan Bryn Terfel, sêr y West End Julian Ovendon, Clive Rowe, Hannah Waddingham ag Emma Williams a'r cyfan wedi ei gyfarwyddo gan Daniel Evans.

Cerddoriaeth gorawl

Ar Orffennaf 5 cynhelir gala opera fydd yn cynnwys perfformiadau gan Bryn Terfel a'i westeion arbennig gan gynnwys cerddorfa a chorws Opera Cenedlaethol Cymru dan arweiniad Gareth Jones.

Fe fydd noson yn cael ei gynnal ar lwyfan y Festival Hall ar Orffennaf 6, yng nghwmni Gruff Rhys o'r Super Furry Animal.

Cyflwynir prynhawn o gerddoriaeth gorawl ar ddydd olaf yr ŵyl.

Bydd côr o 500 o gantorion o bum cyfandir, oll â chysylltiad Cymraeg yn cyd-ganu gyda Chôr Meibion Cymry Llundain.

Ceir perfformiad arbennig gan Bryn Terfel, ac mi fydd y rhaglen yn cynnwys premiere byd o 'A Hero's Journey', gwaith newydd gan Karl Jenkins, cyn-aelod o'r band Soft Machine a chyfansoddwr Cymraeg a werthodd dros filiwn o'i albwm Adiemus: Songs of Sanctuary.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.