Galw am dorri cyllid crefyddol y gwasanaeth iechyd
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwasanaeth iechyd yn gwario £1.3 miliwn ar ofal crefyddol ac ysbrydol yn ôl ffigyrau'r Gymdeithas Seciwlar Genedlaethol (CSG).
Mae'r gymdeithas, sy'n credu na ddylai crefydd fod yn rhan o'r wladwriaeth, yn honni y gallai'r arian gael ei ddefnyddio i dalu am feddygon, nyrsys a chyffuriau a allai achub bywydau.
Ond honnodd arbenigwr iechyd fod y swm yn "weddol fach" wrth ystyried bod cyllideb y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn £6 biliwn.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ystyried y fath ofal yn "fuddsoddiad da".
Ond mae CSG yn credu gall y gofal gael ei ariannu gan ymddiriedolaeth elusennol.
Elusennau
Mae'r gofal crefyddol sy'n cael ei ddarparu mewn ysbytai yn cynnwys ystafelloedd aml-ffydd, bedyddio plant sy'n ddifrifol wael a chynnig gwasanaeth cynghori ar gyfer nyrsys a meddygon.
Dywedodd llefarydd y CSG yng Nghymru, Alan Rogers: "Mae nifer o enghreifftiau o staff sy'n cael eu cyflogi gan y gwasanaeth iechyd ond sy'n cael eu hariannu gan ymddiriedolaethau elusennol.
"Rwy'n credu y dylai'r ymddiriedolaeth elusennol rydym yn ei chynnig fod yn un eciwmenaidd.
"Yn fy marn i, rwy'n credu y gallai'r ymddiriedolaeth godi mwy o arian a darparu gwasanaeth mwy cynhwysfawr."
Dywedodd Marcus Longley, cyfarwyddwr Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru ym Mhrifysgol Morgannwg, y gallai cynnig CSG lwyddo.
'Gofal ysbrydol'
"Rwy'n credu y byddai'r cynllun yn arbed swm arwyddocaol o arian ond nid i'r fath raddau a honnwyd," meddai.
"Mae'n amlwg bod y gwasanaeth iechyd yn gwario swm sylweddol o arian ar y gofal yma a allai gael ei ddefnyddio i gyflogi mwy o nyrsys.
"Ond mae'r gwasanaeth iechyd yn gwario dros £6 biliwn yng Nghymry felly mae £1 miliwn yn swm weddol fach."
Dywedodd Carol Layman Davies, cyfarwyddwr Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru fod rhai o'r aelodau yn cytuno â'r CSG.
"Roedd y rhan helaeth o bobl a ofynnwyd yn meddwl bod y gwasanaeth yn un hanfodol ond y dylai'r fath ofal gael ei ariannu gan arian elusennol," meddai.
Mae Alan Raymond Delve yn derbyn triniaeth cemotherapi yn Ysbyty Singleton, Abertawe.
Dywedodd fod y gofal ysbrydol mae ef yn ei dderbyn mor bwysig â'r gofal meddygol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn credu bod gwasanaethau gofal ysbrydol yn fuddsoddiad da.
"Mae'r gwasanaeth yn chwarae rhan bwysig o ran cynghori a rhoi cymorth i gleifion ac mae ar gael i bobl byddant yn grefyddol ai peidio."
Straeon perthnasol
- 14 Ionawr 2012
- 24 Rhagfyr 2011
- 10 Hydref 2011