Heddlu’n rhybuddio am dwyll ffôn yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn rhybuddio'r cyhoedd i fod yn wyliadwrus o fath penodol o dwyll sy'n digwydd dros y ffôn.

Dywed yr heddlu fod un ddynes leol yn ei 60au wedi colli £650 mewn un achos yn ddiweddar.

Mae troseddwyr yn cysylltu â phobl yn uniongyrchol yn eu cartrefi ac yn dweud wrthyn nhw eu bod yn cynrychioli cwmni cenedlaethol.

Maen nhw'n honni, os yw'r unigolion yn talu arian i mewn i'w cyfrifon PayPoint, y byddan nhw'n derbyn gostyngiad yn lefel eu biliau nwy a thrydan.

'Credadwy iawn'

Mae'r troseddwyr yn darparu'r unigolion â rhif cyfrif PayPoint a rhif ffôn i'r unigolyn ffonio ar ôl iddyn nhw wneud y taliad.

Dywed yr heddlu fod y bobl yn gredadwy iawn a hyd yn oed yn rhoi rhif eu 'swyddfa yn y DU' - ond rhif ffug yw hwn.

Dywedodd PC Delyth Brian o Gaernarfon: "Os oes gennych chi unrhyw amheuaeth o gwbwl, rhowch y ffôn i lawr ar unwaith a hysbyswch eich cwmni ffôn.

"Bydd unrhyw sefydliad cyfrifol yn cysylltu â'u cwsmeriaid yn ysgrifenedig a bydd ganddyn nhw rif cenedlaethol y gellir ei ffonio os oes gennych unrhyw bryderon."

Mae Heddlu Gogledd Cymru hefyd yn cynghori pobl i beidio â rhoi eu manylion banc i unrhyw un nad ydyn nhw'n eu hadnabod.

"Os byddwch chi'n cael eich twyllo ac yn colli arian rhowch wybod i'r banc ar unwaith a ffoniwch Heddlu Gogledd Cymru ar 101 am gyngor," dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol