Talcen caled i Forgannwg

Huw Waters Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Cymrodd Waters saith wiced am 53 rhediad

Er gwaetha' ymdrechion Huw Waters, mae'n ymddangos bod Morgannwg mewn trafferthion ar ddiwedd ail ddiwrnod eu gêm yn y bencampwriaeth yn erbyn Hampshire yn Stadiwm Swalec.

Ar ôl dod â'u batiad cyntaf i ben ar 103 am 9, tasg Morgannwg oedd ceisio cyfyngu ar gyfanswm yr ymwelwyr.

Waters oedd bowliwr mwyaf llwyddiannus Morgannwg o bell ffordd gan gipio saith wiced am 53, ond er hynny llwyddodd Hampshire i sgorio 156 gan roi mantais o 53 iddyn nhw.

Doedd dechrau ail fatiad Morgannwg fawr gwell, ac erbyn diwedd y diwrnod, roedden nhw wedi colli tair wiced, gan gynnwys eu prif sgoriwr yn y batiad cyntaf, Will Bragg, am 10 yn unig.

Gyda wicedi'n disgyn rif y gwlith, mae'n ymddangos mai dim ond deuddydd o dywydd drwg sy'n debyg o achub Morgannwg rhag colli gêm arall yn ail adran Pencampwriaeth y Siroedd.

Morgannwg v Sir Hampshire(Ail ddiwrnod)

Morgannwg: (Batiad cyntaf) 103 am 9

(ail fatiad) 73 am 3

Hampshire: (Batiad cyntaf) 156

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.