Anghydfod yn golygu pentwr o sbwriel

Mae pennaethiaid sydd yng nghanol anghydfod gyda gweithwyr casglu sbwriel yn Sir Gaerfyrddin wedi ymddiheuro i drigolion am nad yw'r biniau wedi eu gwagio ers tro.
Cafodd gweithwyr wybod na fyddan nhw'n cael gorffen eu shifftiau ar ôl gwneud y casgliad olaf am nad yw hynny'n deg i weithwyr eraill.
Ers y penderfyniad, mae trigolion wedi bod yn cwyno nad yw biniau'n cael eu gwagio.
Dywedodd y cyngor eu bod yn gobeithio y bydd y gwasanaeth yn ôl i'r arfer yr wythnos nesaf. Doedd neb o undeb y GMB, sy'n cynrychioli'r gweithwyr, ar gael i wneud sylw ar y mater.
Cafodd telerau cyflog newydd eu cyflwyno ar Ebrill 1, ond nid oedd y rheini'n effeithio ar weithwyr sbwriel.
Ond fe wnaeth y cyngor ddiddymu'r rheol oedd yn caniatáu i weithwyr fynd adref pan oedd y casgliad sbwriel olaf wedi ei gwblhau.
Dyw'r rheolau newydd ddim wedi arwain at streic answyddogol, ond ers y newid nid yw pob casgliad wedi ei wneud, gan achosi tomeni o sbwriel ger rhai cartrefi, a phryderon am fagiau wedi rhwygo a'r bygythiad gan lygod mawr.
Mae'r cyngor wedi pwysleisio na fydd y rheol diwedd shifft yn cael ei ail-gyflwyno.
Dywedodd Richard Workman, cyfarwyddwr gwasanaethau technegol Cyngor Sir Gâr: "Ni allwn wneud trefniadau arbennig i staff casglu sbwriel, gan y byddai hynny'n annheg i staff eraill sy'n gweithio'u horiau llawn bob wythnos.
"Rydym yn gobeithio datrys y mater yn fuan drwy ymgynghori, ond nid fyddwn yn caniatáu i'r sefyllfa barhau ac fe fyddwn yn ystyried bob ffordd o sicrhau parh²d i'r gwasanaeth.
"Rydym yn gwerthfawrogi amynedd a chydweithrediad y trigolion yn y cyfnod yma, ac yn ymddiheuro i'r rhai sydd wedi dioddef.
"Rydym yn gobeithio dychwelyd i normalrwydd rhywdro yr wythnos nesaf."
Mae'r BBC wedi ceisio cysylltu gydag undeb y GMB, ond doedd neb ar gael i wneud sylw.