Gwrthdrawiad: Un wedi marw
- Cyhoeddwyd

Bu farw menyw yn ei 30au mewn gwrthdrawiad ar ffordd yng Ngwynedd.
Cafodd dau o bobl eraill eu cludo i'r ysbyty yn dilyn y gwrthdrawiad ar yr A4244 ger pentref Deiniolen yn ymyl Llanberis am 1:20pm ddydd Sadwrn.
Deellir bod cerbyd Land Rover ac un cerbyd arall wedi bod mewn gwrthdrawiad benben a'i gilydd.
Dywedodd llefarydd o Wasanaeth Ambiwlans Cymru bod dau berson arall wedi eu cludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor gydag anafiadau difrifol, ond credir nad yw eu bywydau mewn perygl.
Cafodd criwiau o ddiffoddwyr o Gaernarfon a Llanberis eu gyrru i'r safle a bu'n rhaid defnyddio pffer arbennig i dorri un person o'i gerbyd.
Ond roedd un person wedi marw yn y fan a'r lle.
Mae Heddlu'r Gogledd wedi apelio ar unrhyw un oedd yn dyst i'r digwyddiad i gysylltu gyda nhw drwy ffonio 101.