Bolton 1-1 Abertawe

Image copyright Other

Bolton 1-1 Abertawe

Llwyddodd Abertawe i gipio pwynt oddi cartref yn Bolton ddydd Sadwrn.

Yr Elyrch aeth ar y blaen gyda gôl gampus gan Scott Sinclair.

Llwyddodd yr ymosodwr i grymanu'r bêl i gornel y rhwyd o ymyl y cwrt cosbi.

Ond daeth Bolton yn gyfartal cyn pen chwarter awr o chwarae. Cyn asgellwr Manchester United a Burnley, Chris Eagles, sgoriodd.

Am weddill y gêm roedd yr ymwelwyr yn feistri yn ôl yr ystadegau. Cafodd Abertawe mwy o'r meddiant, a llawer mwy o ergydion at gôl Bolton.

Ond llwyddodd amddiffyn y tîm cartref i ddal yn gadarn wrth geisio am bwynt yn eu brwydr yn erbyn y gwymp i'r Bencampwriaeth.

Tabl Uwchgynghrair Barclays

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Manchester United 34 +54 82
2. Manchester City 34 +58 77
3. Arsenal 35 +24 65
4. Newcastle 34 +11 62
-----------------------------------------------------------------------------------------
11. ABERTAWE 35 -6 43

Ebrill 21, 2012

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.