BBC Cymru Fyw

Y Seintiau yw'r pencampwyr

Published
image copyrightOther
image captionRhai o chwaraewyr Y Seintiau newydd yn dathlu ennill yr Uwchgynghrair
Y Seintiau Newydd yw pencampwyr newydd uwchgynghrair Cymru ar ôl curo Bangor o 5-0 ar faes Neuadd y Parc ddydd Sadwrn.
Roedd y pum munud cyntaf yn ysgytwol, ac yn arwydd o'r hyn oedd i ddod.
Wedi dim ond dau funud, gwrthododd y dyfarnwr gic o'r smotyn i'r Seintiau pan oedd hi'n ymddangos bod golwr Bangor wedi baglu Ryan Fraughan yn y cwrt.
O weld y digwyddiad eto ar y teledu, y dyfarnwr oedd yn gywir, gan ddangos cerdyn melyn i Fraughan am ffugio.
Ond o fewn munud i hynny, fe sgoriodd y tîm cartref.
Pas hir dros ben amddiffyn Bangor, a doedd Greg Draper ddim yn camsefyll.
Pwyllodd ymosodwr rhyngwladol Seland Newydd cyn gosod y bêl i'r gornel.
Wedi saith munud roedd hi'n ddwy, a cyn-chwaraewr Bangor, Chris Seargeant oedd y sgoriwr y tro hwn.

Cyn yr egwyl

Dechrau trychinebus i'r pencampwyr, ac roedd hi'n ymddangos bod y Seintiau am wneud yn iawn am golli'r bencampwriaeth ar ddiwrnod olaf y tymor diwethaf ar Ffordd Farrar.
Roedd y gwaith caled wedi ei wneud, ac fe aeth yn haws wedi 25 munud. Draper unwaith eto darodd y bêl dros ben golwr Bangor, Lee Idzi, ac fe beniodd y bêl i rwyd wag - 3-0.
I bob pwrpas, roedd yr ornest drosodd cyn yr egwyl.
Er i Fangor frwydro ychydig yn well wedi'r egwyl, roedd absenoldeb eu prif sgoriwr Les Davies oherwydd gwaharddiad yn amlwg yn anfantais sylweddol.
Manteisio ar hynny wnaeth y Seintiau, ac fe aethon nhw ymhellach ar y blaen pan rywdodd Ryan Fraughan i'w gwneud hi'n 4-0.
Daeth halen ar friw Bangor yn y munudau olaf pan gafodd y Seintiau gic o'r smotyn am drosedd gan gapten Bangor, Jamie Brewerton.
Roedd yn gyfle hefyd i Greg Draper gael ei hat-tric ac fe wnaeth hynny o'r smotyn i'w gwneud hi'n bum gôl i'w dîm.
Roedd y canlyniad yn newyddion da hefyd i Derwyddon Cefn.
Gan bod y Seintiau wedi ennill yr Uwchgynghrair - ac felly'n mynd i Gynghrair y Pencampwyr y tymor nesaf - Derwyddon Cefn fydd yn cynrychioli Cymru yng Nghynghrair Europa gan iddyn nhw gyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru.
Ben arall y tabl roedd drama wrth i Aberystwyth sgorio yn hwyr yn eu gêm yn erbyn Y Drenewydd.
Mae hynny'n golygu bod Aberystwyth yn aros yn yr Uwchgynghrair, ac yn golygu y bydd Caerfyrddin yn disgyn er iddyn nhw hefyd ennill eu gêm olaf brynhawn Sadwrn.

Canlyniadau

Seintiau Newydd 5-0 Bangor
Aberystwyth 3-2 Y Drenewydd
Lido Afan 1-2 Airbus UK Brychdyn
Castell-nedd 1-5 Llanelli
Port Talbot 0-1 Caerfyrddin
Prestatyn 1-2 Bala