RaboDirect Pro12: Scarlets 20-20 Munster

Image copyright Huw Evans picture agency

Scarlets 20-20 Munster

Roedd hi'n frwydr gystadleuol, ond mae'r gêm gyfartal yma'n gadael gobeithion y Scarlets o gyrraedd y rowndiau terfynol yn y fantol.

Roedd pwynt yn ddigon i sicrhau y bydd Munster yno.

Daeth tîm Nigel Davies yn ôl o fod 17-7 ar ei hôl hi am gyfnod, ond daliodd amddiffyn y Gwyddelod yn gryf.

Sgoriodd Sean Lamont un o geisiau gorau'r tymor yn gynnar i'r Scarlets, ond fe darodd Danncha Ryan a Simon Zebo yn ôl i'r ymwelwyr.

Croesodd Aaron Shingler cyn i Rhys Priestland unioni'r sgôr gyda'i droed.

Gydag un gêm yn weddill y tebygrwydd nawr yw y bydd Munster yn teithio i wynebu'r Gweilch yn y rowndiau terfynol.

Ond bydd rhaid i'r Scarlets ddibynnu naill ai ar Treviso yn curo Glasgow ddydd Sul, neu Connacht i gyflawni'r un gamp yn y gemau olaf ar Fai 5.

Yn y gêm honno bydd y Scarlets yn croesawu'r Gleision i Barc y Scarlets.