Hwb o £4.3m i Ysbyty Singleton yn Abertawe
- Published
Bydd Ysbyty Singleton yn Abertawe yn derbyn £4.3 miliwn er mwyn gwella'r gofal i'r henoed a phlant.
Bydd peth o'r arian yn cael ei wario ar symud adnodd i'r henoed o ysbyty cymunedol arall yn Abertawe i ward yn Singleton.
Yn y cyfamser bydd canolfan datblygu plant, sy'n dod â nifer o driniaethau o dan yr un tô yn y prif ysbyty, hefyd yn cael ei chreu.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yr arian yn gwneud "gwahaniaeth anferth".
Mewn datganiad, dywedodd y byddai symud yr adnodd henoed yn gwella preifatrwydd ac urddas i gleifion hŷn.
Ychwanegodd y datganiad bod cleifion ifanc ar hyn o bryd yn gorfod teithio i saith o leoliadau gwahanol ar draws Abertawe er mwyn cael gwasanaethau gan gynnwys therapi galwedigaethol, therapi iaith a lleferydd ac ati.
'Croesawu'
Dywedodd cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Win Griffiths:
"Rydym yn croesawu'n fawr y gefnogaeth barhaus gan Lywodraeth Cymru sy'n ein cynorthwyo i foderneiddio gwasanaethau'r Bwrdd a darparu'r gofal ac amgylchedd o'r radd flaenaf i gleifion a staff.
"Bydd y buddsoddiadau yma yn cynorthwyo cleifion hŷn a phlant gydag anableddau, ac rydym yn falch iawn o fedru symud ymlaen gyda'r datblygiadau."
Yn ôl y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, bydd y £4.299 miliwn yn "gwneud gwahaniaeth anferth i ddau grŵp o gleifion bregus".
Ychwanegodd: "Mae'r gwelliannau i'r adnoddau gofal henoed yn sicrhau gofal diogel, cynaliadwy a safonol ar sail barhaus, ac yn gwella profiad y claf."
Straeon perthnasol
- Published
- 9 Rhagfyr 2011
- Published
- 18 Ionawr 2012