BBC Cymru Fyw

RaboDirect Pro12: Gleision 38-13 Caeredin

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
image captionAlex Cuthbert yn croesi am un o'i dri chais
Sgoriodd Alex Cuthbert hat-tric o geisiau wrth i Martyn Williams ymddeol gyda buddugoliaeth yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Daeth Caeredin i Gaerdydd gyda thîm gwan wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer ymweliad Toulouse yn rownd wyth olaf Cwpan Heineken y penwythnos nesaf.
Fe fanteisioedd y Gleision i'r eithaf wrth i Lloyd Williams, Luke Hamilton a Josh Navidi hefyd groesi'r llinell i roi pwynt bonws i'r Gleision.
Harry Leonard sgoriodd yr un cais i'r ymwelwyr.
Yn y gêm arall chwaraewyd ddydd Sul roedd torcalon i'r Scarlets.
Er mwyn rhoi gobaith i'r tîm o Lanelli i gyrraedd rowndiau terfynol y Pro12, roedd angen i Treviso guro Glasgow yn yr Eidal.
Roedd yr Eidalwyr ar y blaen tan i gais hwyr Van Der Merwe a throsiad Jackson roi'r fuddugoliaeth i'r Albanwyr o 13-8.

Canlyniadau :-

Gleision 38-13 Caeredin
Treviso 8-13 Glasgow