Dechrau da i Jamie Jones

  • Cyhoeddwyd
Snwcer

Cafodd y Cymro Jamie Jones ddechrau da i'w ornest yn erbyn Shaun Murphy ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd yn Sheffield.

Yn y sesiwn gyntaf rhwng y ddau brynhawn Sul, aeth y llanc o Gymru ar y blaen sawl gwaith a hefyd brwydro'n ôl ar adegau.

Y cyntaf i ennill deg ffrâm fydd yn mynd ymlaen i'r ail rownd, ac ar ddiwedd y sesiwn, roedd Murphy ar y balen o drwch blewyn.

Sgôr diweddaraf :

Rownd 1 -

Shaun Murphy 5-4 Jamie Jones