Achos trais Ched Evans 'dynes wedi ei henwi a'i sarhau arlein'

  • Cyhoeddwyd
Ched EvansFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Ched Evans ei garcharu am bum mlynedd ddydd Gwener

Mae'r heddlu yn ymchwilio i adroddiadau bod enw dynes a gafodd ei threisio gan y pêl-droediwr Ched Evans wedi ei gyhoeddi ar wefan gymdeithasol.

Daw ar ôl cwyn gan un o brif elusennau sy'n rhoi cymorth i bobl sydd wedi cael eu treisio sy'n dweud bod y sylwadau honedig ar wefan Twitter yn "bryderus" a bod y ddynes hefyd wedi cael ei sarhau.

Cafodd chwaraewr Sheffield United a Chymru, Evans, 23 oed sy'n wreiddiol o Lanelwy, ei garcharu am bum mlynedd ddydd Gwener am dreisio dynes 19 oed.

Mae llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru yn dweud eu bod nhw'n casglu'r wybodaeth berthnasol.

Mae gan ddioddefwyr sydd wedi eu treisio neu ddiodde' o ymosodiadau rhywiol yr hawl i fod yn anhysbys am oes.

Dywedodd Holly Dustin, Cyfarwyddwr Argyfwng Treisio Cymru a Lloegr, ei bod hi'n "bryderus bod y dioddefwr yn achos Ched Evans wedi eu henwi a'i sarhau ar wefan Twitter a gwefannau cymdeithasol eraill".

Cwestiynau difrifol

"Mae gan y rhai sy'n gwneud cwyn am dreisio yr hawl o dan y gyfraith i barhau i fod yn anhysbys am oes ar ôl cysylltu gyda'r heddlu.

"Mae enwau'r rhai sydd wedi cyhoeddi ewn'r ddynes wedi cael eu trosglwyddo i'r heddlu..

"Mae hyn yn codi cwestiynau difrifol am allu'r system gyfiawnder i ymdrin â throseddau sy'n digwydd ar y we.

"Rydym yn galw am adolygiad brys i'r gyfraith ac i arferion cyfreithiol."

Fe wnaeth Evans gyfadde' iddo gael rhyw gyda'r dioddefwr mewn gwesty yn Rhuddlan ym mis Mai 2011.

Dywedodd y ddynes nad oedd ganddi unrhyw atgof o'r digwyddiad ac fe wnaeth yr erlyniad ddadlau yn llwyddiannus ei fod yn rhyw feddw i fod wedi cydsynio.

Cafwyd amddiffynnwr Port Vale, Clayton McDonald, 23 oed, yn ddieuog o dreisio'r ddynes.

Dydd Sul cyhoeddodd Cymdeithas y Chwaraewyr Proffesiynol fod Evans wedi enwi yn nhîm y flwyddyn Adran Un.

Cafodd y bleidlais ei chynnal ymhlith y pêl-droedwyr ddechrau'r flwyddyn.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol