Cennin Pedr Alex Jones i'w gweld am y tro cyntaf

Roedd gan y cyflwynydd teledu Alex Jones reswm arbennig i fod yn bresennol yn Sioe flodau'r RHS yng Nghaerdydd dros y penwythnos.

Cafodd cyflwynydd y One Show weld y cennin Pedr sydd wedi cael eu henwi ar ei hôl.

Fe dderbyniodd hi dusw o Gennin Pedr Alex Jones ar The One Show gan yr arbenigwr Ron Scamp.

Dywedodd Mr Scamp fod y blodyn, fel y gyflwynwraig 35 oed o Rydaman, yn "hyfryd a chain".

Nid Alex Jones yw'r gyntaf i gael cennin Pedr wedi ei henwi ar ei hôl.

Yn 2009 fe gafodd y Duffydil ei lansio ar ôl y gantores o Nefyn, Duffy ac mae'r gantores Katherine Jenkins hefyd wedi cael cennin Pedr wedi ei henwi ar ei hôl.

Anarferol

Mae'r blodyn diweddara yn un anarferol ac wedi ei dyfu gan Mr Scamp o Gernyw.

Mae gan y cennin Pedr betalau gwyn a phinc.

"Dwi'n credu bod y blodyn yn mynd i fod yn boblogaidd gyda'r garddwyr yn ogystal â chefnogwyr Alex," meddai Mr Scamp.

"Fe fydd yr elw o werthiant y blodyn yn mynd at elusennau'r BBC."

Y gred yw bod 25,000 o bobl wedi ymweld â'r sioe dros y penwythnos ym Mharc Biwt.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.