Buddugoliaeth i Stevens yn Sheffield

Matthew Stevens Image copyright PA
Image caption Enillodd Matthew Stevens yn gyfforddus o 10-3

Mae Matthew Stevens wedi sicrhau ei le yn yr 16 olaf ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd ar ôl curo Marco Fu o 10-3 yn y Crucible yn Sheffield.

Chafodd y Cymro o Gaerfyrddin - a gollodd i Mark Williams yn y rownd derfynol yn 2000, ac i Shaun Murphy yn 2005 - ddim llawer o drafferth i guro'r chwaraewr o Hong Kong.

Enillodd Stevens yr wyth ffram gynta', ac er i Fu ddechrau'r sesiwn nos yn addawol, aeth Stevens ymlaen i ennill o 10 ffram i 3.

Bydd yn wynebu Barry Hawkins yn y rownd nesa'.

Sgôr:

Rownd 1:

Matthew Stevens 10-3 Marco Fu

Straeon perthnasol