Dyn 76 oed wedi marw ar ôl damwain ffordd yn Sir Benfro

Mae dyn 76 oed wedi marw wedi i'w gar daro coed yn Sir Benfro.

Digwyddodd y ddamwain am 6.20pm yn Saundersfoot ddydd Sadwrn.

Dywed Heddlu Dyfed-Powys fod y dyn, fu farw yn y fan a'r lle, yn byw yn lleol gyda'i wraig.

Y gred yw nad oedd unrhyw un arall yn gysylltiedig â'r ddamwain.

Mae'r heddlu am i unrhyw un a welodd car Nissan du yn teithio rhwng Saundersfoot a New Hedges i gysylltu â nhw.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu ag Uned Plismona Ffyrdd Heddlu Sir Benfro ar 101.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.