BBC Cymru Fyw

Jones yn trechu pencampwr

Published
image copyrightPA
image captionJamie Jones: '... Dwi ddim wedi chwarae gêm fel hon ond dwi'n credu y galla i chwarae'n well.'
Mae Jamie Jones o Gastell-nedd wedi trechu pencampwr 2005, Shaun Murphy, ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd yn Sheffield.
Hwn yw'r tro cyntaf i'r Cymro 24 oed chwarae yn y bencampwriaeth ac enillodd 10-8 cyn wynebu Andrew Higginson neu Stephen Lee yn yr ail rownd.
Dywedodd Murphy: "Roedd yn annisgwyl ond pob clod i Jamie. Roedd y gêm o ansawdd uchel ac, yn sicr, roedd Jamie'n chwarae fel rhywun profiadol nid newydd-ddyfodiad."
Dywedodd Jones: "Roedd y pwysau'n anhygoel. Dwi ddim wedi chwarae gêm fel hon ond dwi'n credu y galla i chwarae'n well.
"Roedd pawb gartre'n gwylio'r gêm ac mae'r ffôn wedi bod yn canu'n ddi-baid. Mae fel ffair gartre."
Murphy yw'r ail un i golli yn y rownd gyntaf wedi perfformiad siomedig Mark Allen ddydd Sadwrn.
Jones yw'r 36ed yn y byd a bydd yr ail rownd ddydd Sul a dydd Llun.
Cafodd Jones gychwyn gwych ddydd Sul.
Sgôr:
Rownd 1 -
Shaun Murphy 8-10 Jamie Jones

Straeon perthnasol

  • Snwcer: Pump o Gymry yn cystadlu yn Shefield