Cadwraeth: Rhybudd pysgotwyr yng Ngwynedd

Map yn dangos 10 o Barthau Cadwraeth Morol posib yng Nghymru
Image caption Cafodd rhestr o 10 safle posib ei datgelu yn gynharach yn y mis

Wrth i ymgynghoriad gael ei gynnal ar gynlluniau i warchod cynefinoedd morol pwysig yng Nghymru, mae rhai wedi rhybuddio y gallai fod yn drychinebus i'r diwydiant pysgota mewn un ardal.

Bydd Llywodraeth Cymru'n creu tri neu bedwar o Barthau Cadwraeth Morol erbyn 2014, o restr o 10 safle posib.

Cafodd y rhestr ei llunio gan arbenigwyr cadwraethol.

Ond mae pysgotwyr yng Ngwynedd yn anhapus y byddai'r cynlluniau'n eu gwahardd o ardaloedd ble maen nhw'n honni y gallen nhw bysgota'n gynaliadwy.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod eisiau i bawb gael rhoi eu barn ar y cynlluniau.

Cafodd y rhestr o 10 safle posib ei datgelu gan Weinidog Amgylchedd Cymru John Griffiths ar ddechrau proses ymgynghori ar Ebrill 19.

Dyma'r cyntaf o dri ymgynghoriad ar y mater.

Bioamrywiaeth

Yn ôl Cyngor Cefn Gwlad Cymru, sydd wedi cynghori'r llywodraeth ar y dewis o safleoedd, byddai cyflwyno'r parthau yn hybu bioamrywiaeth forol ac yn cynnal yr amgylchfyd ehangach.#

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Adroddiad Alun Rhys

Dywed y cyngor y byddai'r parthau fyddai'n cael eu dewis yn cael eu hamddiffyn yn ofalus rhag gweithgareddau fyddai'n newid, niweidio neu aflonyddu ar y bywyd naturiol yno.

Mewn termau ymarferol, meddai, byddai hynny'n golygu na fyddai unrhyw beth yn cael ei dynnu ohonynt na'i gyflwyno iddyn nhw.

Cafodd y safleoedd posib eu dewis am eu bod yn cynnal amrywiaeth eang o gynefinoedd a bywyd gwyllt - ac yn achosi'r effaith lleia' posib ar y bobl oedd yn eu defnyddio, meddai'r cyngor.

"Mae tystiolaeth yn awgrymu fod ardaloedd sy'n cael eu hamddiffyn yn ofalus yn chwarae rôl bwysig o ran cefnogi adferiad ecosystemau a'u gallu i addasu i bwysau neu newid," meddai Dr David Parker, prif wyddonydd y cyngor.

"Byddan nhw hefyd yn gwella ein dealltwriaeth o'r amgylchedd morol.

"Mae'n hollbwysig bod ein moroedd yn iach ac yn cael eu rheoli mewn modd cynaliadwy fel ein bod yn gallu parhau i fwynhau ac elwa ohonynt am genedlaethau i ddod.

"Mae gan Barthau Cadwraeth Morol ran i'w chwarae yn hyn."

Ond mae Sion Williams, ysgrifennydd Cymdeithas Pysgotwyr Cewyll Llŷn, yn dweud fod rhai o fewn y diwydiant pysgota ac ymwelwyr yn yr ardal yn "gandryll" am y cynlluniau.

Yn ôl Mr Williams, 38 oed, sy'n pysgota ers 1987, fyddai cau rhannau o'r môr i ffwrdd ddim yn gweithio, gan y byddai pysgotwyr yn gorfod symud i leoedd eraill, fyddai'n cael eu gor-bysgota o ganlyniad.

"Maen nhw'n rhoi diwedd ar ymgyrch bysgota gynaliadwy," meddai.

"Fe gawson ni dipyn o sioc pan ddatgelwyd y rhestr.

"Mae chwech o'r safleoedd oddi ar arfordir gogledd Cymru, ac mae pedwar o'r rheiny o gwmpas Llŷn. Ac mae'r rhain yn safleoedd mawr."

Dywed Mr Williams fod un o'r safleoedd posib yn cynnwys hanner yr ardal mae o'n pysgota ynddi - darn saith milltir (11.2 cilometr) o hyd a thair milltir (4.8 cilometr) o led.

Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Dywed Sion Williams fod pysgotwyr yn "gandryll" am y cynlluniau

'Tlodi'

"Rwy'n flin iawn bod hyn wedi dod gan Lywodraeth Cymru," meddai.

"Rydym yn ardal ddifreintiedig yma, gydag incwm isel. Maen nhw'n mynd i achosi mwy o dlodi a chaledi."

Yn ôl Mr Williams, mae'r cynlluniau yn bygwth bywoliaeth tua 40 o gychod cimwch a chrancod sy'n gweithio o gwmpas arfordir Pen Llŷn, a hefyd bywoliaeth pobl sy'n gysylltiedig â'r diwydiant, fel proseswyr bwyd môr, peirianwyr a darparwyr offer.

Gyda'r broses ymgynghori bresennol i fod wedi'i gwblhau erbyn Gorffennaf 31, dywed Mr Williams fod ei gymdeithas yn ceisio cael cymaint o bobl â phosib i wrthwynebu'r cynlluniau.

"Dydw i ddim yn mynd i roi'r gorau i bysgota," ychwanegodd.

'25 mlynedd'

"Rwyf wedi bod yn pysgota yn yr ardal hon am 25 mlynedd. Fi yw'r drydedd genhedlaeth i bysgota yma.

"Mae llawer o bysgotwyr wedi dweud yr un fath."

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn awyddus i ddeall ac ystyried barn grwpiau fel pysgotwyr, amgylcheddwyr a rhai o fewn y diwydiant ymwelwyr.

Meddai llefarydd ar eu rhan: "Dydyn ni ddim yn agos at wneud unrhyw benderfyniadau eto ac rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i gyfrannu at y broses fel bod eu barn yn gallu cael ei ystyried."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.