Gêm olaf posib Casnewydd ym Mharc Spytty wrth groesawu Wrecsam

Rodney Parade Image copyright bbc
Image caption Rodney Parade yw cartref tîm rygbi Dreigiau Gwent

Fe fydd Casnewydd yn croesawu Wrecsam i Barc Spytty nos Fawrth yn Uwchgynghrair Blue Square.

Mae'n bosib mai hon fydd gêm ola'r Alltudion yno.

Mae'r clwb mewn trafodaethau i symud i Rodney Parade.

Dwy gêm sydd gan Gasnewydd ar ôl yn y gynghrair, yr un adref yn erbyn Wrecsam cyn teithio i wynebu Barrow ddydd Sadwrn.

Mae'r tîm hefyd yn wynebu taith i Wembley fis Mai ar gyfer Tarian yr FA yn erbyn Caerefrog ar Fai 12.

Mae'r Alltudion yn safle 17 yn y tabl tra bod Wrecsam yn ail ac wedi sicrhau eu lle yn y gemau ail-gyfle.

Anaddas

Wedi taith i Gasnewydd nos Fawrth fe fydd y Dreigiau adre ar Y Cae Ras ddydd Sadwrn yn erbyn Braintree.

Mae cadeirydd clwb rygbi Dreigiau Gwent, Martyn Hazell, wedi cadarnhau bod y rhanbarth mewn trafodaethau i ganiatáu i'r clwb pêl-droed chwarae ar eu maes.

Mae Cadeirydd y clwb pêl-droed, Chris Blight, wedi dweud nad yw maes Parc Spytty "yn addas".

Dydi hi ddim yn glir a fydd Yr Alltudion yn chwarae pob un gêm gartref yn Rodney Parade y tymor nesaf, neu ambell un.

"Rydym yn dal mewn trafodaethau," meddai Hazell.

"Os allwn ni roi cartref iddyn nhw, fe fyddwn ni'n gwneud gan y bydd o gymorth i'r ddinas.

"Fe fydd yn helpu'r tîm pêl-droed, y tîm rygbi, ond rygbi fydd yn cael y dewis cyntaf o ran dyddiadau ac ati."

Mae 'na le ar gyfer 11,000 yn Rodney Parade, cartref Dreigiau Gwent a thîm rygbi Casnewydd.

Cyflwr gwael

"Dydi'r maes ym Mharc Spytty ddim yn dda...dwi'n meddwl bod 'na broblem yno," meddai Hazell.

"Dydi Casnewydd ddim yn chwarae bob dydd Sadwrn, dwi'n meddwl bod 'na ambell i gêm ganol wythnos, ac os allwn ni lwyddo i sicrhau na fydd y pêl-droed yn gwrthdaro gyda'r rygbi fe fyddwn ni'n barod iawn i roi cartref iddyn nhw."

Ond mae 'na drafferthion wedi bod efo'r cae yn Rodney parade.

Cafodd y rhanbarth eu cosbi gan drefnwyr Cwpan LV am ganslo'r gêm yn erbyn Saracens oherwydd bod y maes wedi rhewi ac roedd llifogydd hefyd wedi effeithio'r cae yn ystod y tymor.

Mae'r Alltudion wedi gorfod newid dyddiadau gemau oherwydd cyflwr y cae ym Mharc Spytty hefyd.

Cyngor Sir a Dinas Casnewydd sy'n rheoli ac yn berchen ar Barc Spytty sydd hefyd yn gartref i dimau Llanwern a chlwb athletau Newport Harriers.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.