Sonny Parker i symud at Gymry Llundain
- Published
Mae cyn-ganolwr Cymru, Sonny Parker, wedi cadarnhau y bydd yn gadael Y Gweilch ddiwedd y tymor ac yn ymuno â chlwb Cymry Llundain y tymor nesa'.
Enillodd y chwaraewr 34 oed o Seland Newydd 31 o gapiau dros Gymru ar ôl ei ymddangosiad cynta' yn 2002 ac roedd yn rhan o'r garfan gipiodd y Gamp Lawn yn 2008.
Bu hefyd yn chwarae yng Nghwpan y Byd yn 2003 a 2007.
Bydd Parker yn ymuno â chyn hyfforddwr y Gweilch, Lyn Jones, yn Llundain.
Dywedodd Parker: "Rwy'n gwybod pa mor dda yw Lyn fel hyfforddwr a pha fath o rygbi mae o eisiau ei chwarae, ac roedd hynny'n un o'r prif resymau dros ymuno â'r clwb.
"Dydw i ddim yn ymrwymo i unrhyw beth os nad ydw i'n gallu rhoi 100%.
"Rwyf eisiau chwarae gemau ac ennill gemau i Gymry Llundain.
"Mae hefyd yn ddechrau newydd i mi yn Llundain.
"Rwyf eisiau chwarae rygbi da a gobeithio mwynhau fy amser gyda'r clwb."
Bydd Cymry Llundain yn wynebu Bedford yng nghymal cynta' rownd gynderfynol y Bencampwriaeth ar Fai 4.