'Un o wyliau gorau'r byd'?

Portmeirion
Image caption Bydd amrywiaeth o gerddoriaeth yn cael ei berfformio ar draws y safle cyfan

Bydd pentref Eidalaidd Portmeirion yng Ngwynedd yn gartre' i ŵyl gerddorol newydd ym mis Medi.

Ymhlith yr artistiaid yn perfformio yng Ngŵyl No. 6 bydd New Order, Primal Scream a Spiritualized.

Bydd sawl DJ enwog hefyd, gan gynnwys Francois K (Deep Space), Erol Alkan a Mr Scruff (Keep It Unreal).

Bydd yr ŵyl gynta' o'i bath yn cael ei chynnal rhwng Medi 14 a 16.

Cafodd Portmeirion ei ddewis, yn ôl y trefnwyr, oherwydd y bensaernïaeth neo-glasurol yn ogystal â thraethau a gerddi hardd.

Bydd artistiaid, gan gynnwys grwpiau llinynnol, yn perfformio ar y safle cyfan, o neuadd y dre' i'r gerddi colofnres a'r promenâd ar hyd aber Afon Dwyryd.

Ymhlith yr arlwy bydd cerddoriaeth roc, gwerin a chorawl.

'Safle anhygoel'

Dywedodd Stephen Morris o grŵp New Order: "Mae'n safle anhygoel ar gyfer gŵyl. Alla' i ddim credu nad ydy o wedi'i ddefnyddio o'r blaen.

"Mae'n mynd i fod yn hollol wych, a 'dan ni gyd yn edrych 'mlaen yn arw."

Yn ôl trefnydd yr ŵyl, Gareth Cooper: "Mewn marchnad sy'n llawn gwyliau a'r Gemau Olympaidd ar y gorwel efallai ei bod yn hurt meddwl am ddechrau un newydd.

"Ond rydyn ni'n gobeithio ein bod wedi darganfod rhywbeth fydd yn tyfu i fod yn un o'r gwyliau gorau yn y byd.

"Rydym yn hyderus y bydd yn un o'r digwyddiadau mwya' deniadol y mae'r DU erioed wedi'i weld."

Dywedodd Robin Llywelyn, Rheolwr Gyfarwyddwr Portmeirion: "Mae'n bleser mawr cydweithio gyda Gŵyl No. 6.

"Roedd Syr Clough Williams-Ellis wedi gobeithio y byddai ei lafur cariad yn rhoi pleser i gynifer o bobl â phosib ac rydym yn credu y bydd yr ŵyl hon yn parhau â'i ddymuniadau drwy gyflwyno Portmeirion i genhedlaeth gwbl newydd."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.