Wrecsam yn curo Casnewydd ym Mharc Spytty nos Fawrth.

  • Cyhoeddwyd
Rodney ParadeFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,
Rodney Parade yw cartref tîm rygbi Dreigiau Gwent

Collodd Casnewydd 1-0 yn erbyn Wrecsam yn, o bosib, eu gêm olaf ym Mharc Spytty nos Fawrth.

Sgoriodd Adrian Cieslewicz unig gôl y gêm yn dilyn ergyd nerthol o 18 llath wedi 10 munud o'r hanner cyntaf.

Casnewydd oedd y tîm gorau yn ystod yr ail hanner ond llwyddodd y Dreigiau atal yr Alltudion rhag sgorio.

Mae Casnewydd yn safle 17 yn y tabl tra bod Wrecsam yn ail ac wedi sicrhau eu lle yn y gemau ail-gyfle.

Bydd gêm olaf Wrecsam cyn y gemau ail gyfle yn erbyn Braintree ar y Cae Ras ddydd Sadwrn.

Bydd Casnewydd yn chwarae eu gêm olaf o'r tymor oddi cartref yn Barrow ddydd Sadwrn cyn iddynt baratoi ar gyfer gêm derfynol Tlws yr FA yn erbyn Caerefrog yn Wembley ar Mai 12.

Mae cadeirydd clwb rygbi Dreigiau Gwent, Martyn Hazell, wedi cadarnhau bod y rhanbarth mewn trafodaethau i ganiatáu i'r clwb pêl-droed chwarae ar eu maes.

Mae Cadeirydd y clwb pêl-droed, Chris Blight, wedi dweud nad yw maes Parc Spytty "yn addas".

Dydi hi ddim yn glir a fydd Yr Alltudion yn chwarae pob un gêm gartref yn Rodney Parade y tymor nesaf, neu ambell un.

"Rydym yn dal mewn trafodaethau," meddai Hazell.

"Os allwn ni roi cartref iddyn nhw, fe fyddwn ni'n gwneud gan y bydd o gymorth i'r ddinas.

"Fe fydd yn helpu'r tîm pêl-droed, y tîm rygbi, ond rygbi fydd yn cael y dewis cyntaf o ran dyddiadau ac ati."

Mae 'na le ar gyfer 11,000 yn Rodney Parade, cartref Dreigiau Gwent a thîm rygbi Casnewydd.

Cyngor Sir a Dinas Casnewydd sy'n rheoli ac yn berchen ar Barc Spytty sydd hefyd yn gartref i dimau Llanwern a chlwb athletau Newport Harriers.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol