Canolfan Gelfyddydol i ail agor wedi gwaith adnewyddu
- Cyhoeddwyd

Mae Canolfan Gelfyddydol sydd wedi bod o dan fygythiad yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn ail agor wedi i'r adeilad cael ei adnewyddu diolch i hwb ariannol gwerth £220,000.
Cafodd Theatr y Farchnad, Canolfan Gelfyddydol Wyeside yn Llanfair-ym-Muallt seddi a goleuadau newydd fel rhan o'r trawsnewidiad.
Mae tua 40,000 o bobl yn ymweld â Chanolfan Gelfyddydol Wyeside bob blwyddyn.
Mae'r ganolfan yn gartref i sinema ac oriel yn ogystal â Theatr y Farchnad a gafodd ei hadeiladu ym 1877.
'Llwyddiant'
Daeth y rhan helaeth o'r cyllid ar gyfer y trawsnewidiad o gronfa ar gyfer cymunedau sy'n cael eu heffeithio gan chwareli.
Cyfrannodd Cronfa'r Ardoll Agregau ar gyfer Cymru, sy'n cael ei gweinyddu gan Lywodraeth Cymru, £140,000 ar gyfer y cynllun.
Mae chwareli fel chwarel Agregau Hanson yn Llanfair-ym-Muallt a chwarel Agregau Bardon yng Nghribarth yn talu dwy bunt am bob tunnell o agregau sy'n gadael y chwareli ac mae rhan o'r arian hwn yn cael ei ddefnyddio i gefnogi'r gronfa.
Cyrff eraill gyfrannodd i'r cynllun oedd Cyngor Powys, Ffrindiau'r Wyeside, Sefydliad Foyle a Sefydliad Garfield Weston.
Mae dyfodol y ganolfan wedi bod o dan fygythiad yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd bod y gost o'i rheoli wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.
Yn 2010 collodd y ganolfan £67,000 o gyllid ar ôl adolygiad buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru.
Dywedodd cadeirydd Canolfan Gelfyddydol Wyeside, Barbara Stow, ei bod hi'n teimlo'n hyderus ynglŷn â dyfodol y ganolfan.
"Bydd Theatr y Farchnad newydd yn golygu y bydd pobl yn gallu bod yn fwy cyffyrddus a mwynhau'r profiad o fynd i'r theatr," meddai.
"Mae nifer o bobl wedi gweithio'n galed iawn i sicrhau llwyddiant y prosiect."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2009
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2007