Dod o hyd i drwydded ar draeth yn Aberystwyth

Simon Andrew Jones Image copyright Other
Image caption Roedd i fod i aros gyda ffrindiau ym Mhenparcau, Aberystwyth

Mae twristiaid wedi dod o hyd i drwydded yrru dyn 24 oed sydd wedi bod ar goll ers mwy na phythefnos.

Nid oedd y twristiaid, ddaeth o hyd i'r drwydded ar draeth yn Aberystwyth, yn gwybod bod Simon Jones o Landysul wedi diflannu.

Cafodd Simon ei weld tua 1.10am, ddydd Llun, Ebrill 9, yn siop prydau parod Lip Licking Chicken ar Heol y Wig, Aberystwyth.

Roedd yn cerdded at dŵr y cloc cyn mynd i gyfeiriad clwb nos Pier Pressure.

Ac roedd y dyn tenau 5' 9" o daldra â gwallt tywyll hyd canolig i fod i aros gyda ffrindiau ym Mhenparcau ond nid aeth yn ôl yno.

Ddim yn deall

Dywedodd ei dad, Gwynfor Jones, nad oedd yn deall pam yr oedd Simon wedi diflannu.

"Roedd wedi cynllunio, roedd yn brysur oherwydd ei fusnes ... mae deunydd wedi cael ei hala at ei weithdy ond sdim sôn ble mae e."

Ac roedd yn rhyfedd, meddai, nad oedd ei drwydded yn ei waled.

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, mae ymddygiad y mab yn annodweddiadol. Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio Heddlu Dyfed-Powys ar 101.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.