Tri cherbyd mewn damwain

Canolfan reoli Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Roedd tri cherbyd yn y ddamwain

Roedd ffordd yr M4 i gyfeiriad y gorllewin ynghau am gyfnod wedi "damwain ddifrifol" ger Ail Bont Hafren nos Fawrth.

Roedd tri cherbyd yn y ddamwain rhwng Cyffordd 22 (M49) a Chyfordd 23 (M48 Magwyr).

Dywedodd Asiantaeth y Priffyrdd fod y ddamwain ger y man casglu tollau.

Cafodd y ffordd i gyfeiriad y gorllewin ei hail-agor yn ddiweddarach nos Fawrth yn ôl yr heddlu.