Ched Evans yn apelio yn erbyn dyfarniad
- Cyhoeddwyd

Cyhoeddodd cyfreithwyr Ched Evans y bydd yn apelio yn erbyn y dyfarniad ar ôl i lys ei gael yn euog dreisio.
Cafodd ymosodwr Sheffield United a Chymru ei garcharu ddydd Gwener am dreisio merch 19 oed mewn gwesty ger Y Rhyl.
Dywedodd cyfreithwyr fod Evans, 23 oed, yn dal i honni ei fod yn ddi-euog.
Daw'r datganiad wrth i Heddlu'r Gogledd rybuddio y bydd rhywun neu rywrai yn cael eu harestio oherwydd sylwadau honedig ar wefan Twitter enwodd y ferch gafodd ei threisio.
Yn y cyfamser, mae Sheffield United wedi atal un o gyd-chwaraewyr Evans ar ôl sylwadau honedig ar wefan Twitter wedi i ymosodwr Cymru gael ei garcharu.
Dywedodd y clwb y bydden nhw'n ymchwilio i'r honiadau fod Connor Brown wedi trydar wedi'r achos.
Yn syth
Dywedodd Sheffield United fod Brown wedi cael ei atal yn syth.
Does dim awgrym fod y chwaraewr wedi enwi'r ferch dan sylw.
Roedd Evans wedi cyfadde' cael rhyw gyda'r ferch mewn gwesty yn Rhuddlan fis Mai'r llynedd.
Dywedodd hi nad oedd hi'n cofio'r digwyddiad a dadleuodd yr erlyniad ei bod hi'n rhy feddw i gydsynio i'r gyfathrach rywiol.
Roedd amddiffynwr Port Vale, Clayton McDonald, oedd hefyd wedi cyfadde' cysgu gyda'r ferch, yn ddieuog o dreisio.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2012