Cyfle i brynu perfformiad yn Wrecsam

Perfformwyr mewn siop ym Mangor Image copyright Iwan Pritchard
Image caption Bydd dawnswyr o grŵp Migrations yn perfformio yn Wrecsam am bedwar diwrnod

Mae cwmni dawns gyfoes yn rhoi cyfle i bobl Wrecsam 'brynu' un o'i pherfformiadau am cyn lleied â 50c.

Mae dawnswyr o gwmni celfyddydau perfformiadol Migrations, sydd a'i ganolfan yn Llanrwst, wedi eu lleoli mewn siop yng nghanolfan Dôl yr Eryrod.

Am bedwar diwrnod bydd siopwyr yn medru dewis perfformiad o 'fwydlen' y dawnswyr a thalu cyn lleied â 50c er mwyn eu gweld yn perfformio.

Gall pobl sy'n pasio wylio o du allan y siop.

Michikazu Matsune, sydd yn wreiddiol o Japan, a David Subal, a aned yn Awstria, yw'r dawnswyr sydd yn cymryd rhan.

Bu'r cwmni'n perfformio ym Mangor y llynedd.

Meddai Iwan Williams, aelod o dîm Migrations: "Mae hwn wedi cael ei berfformio yn Vienna, Oslo, Efrog Newydd a Philadelphia.

"Mae cael Wrecsam yn yr un cwmni yn grêt ac yn dangos y gall perfformiadau o'r radd flaenaf ddod i ogledd Cymru."

Bydd y perfformiadau yn cael eu cynnal yn Uned D14 yng nghanolfan Dôl yr Eryrod yn Wrecsam o 10am - 4pm ar 25 - 28 Ebrill.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.