Oriel Colwyn yn lansio Bywyd y Stryd

  • Cyhoeddwyd
Arddangosfa Bywyd y StrydFfynhonnell y llun, Paul Sampson
Disgrifiad o’r llun,
Mae gwahoddiad i bobl leol ychwanegu eu lluniau eu hun i'r map

Mae oriel newydd ym Mae Colwyn yn agor gydag arddangosfa sy'n galw ar bobl leol i gyfrannu.

Mae Oriel Colwyn yn adeilad Theatr Colwyn ail-agorodd y llynedd wedi ei ailwampio.

Yr arddangosfa gyntaf fydd Bywyd y Stryd.

Mae muriau'r oriel wedi eu gorchuddio â map enfawr sy'n dangos yr ardal leol, o Fae Penrhyn hyd at Chwarel Llanddulas.

Mae'n cynnwys Llandrillo-yn-Rhos, Bae Colwyn, Hen Golwyn a rhan o bentref Mochdre.

Bydd grwpiau cymunedol, ysgolion ac aelodau o'r cyhoedd yn cael eu gwahodd i ychwanegu eu ffotograffau eu hunain i'r map er mwyn creu darlun o'r ardal.

Dywedodd Paul Sampson, Curadur yr Oriel: "Rydym eisiau lluniau sydd wedi eu cymryd yn yr ardal neu luniau o bethau sydd yn atgoffa pobl o'r ardal.

"Rydym yn gobeithio bydd y map yn diflannu dan wal enfawr o luniau fydd yn mynegi teimladau pobl am sut fath o le yw'r ardal yma."

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Ymhlith y rhai sydd wedi cyfrannu lluniau yw'r actor Terry Jones

Gall y lluniau fod o adeiladau, fel cartref personol neu bier, neu o rywbeth sydd yn gysylltiedig ag atgof neu deimlad am yr ardal.

Un o'r rhai sydd eisoes wedi cyfrannu llun yw'r actor Terry Jones, gynt o griw Monty Python.

Mae ei ffotograff yn llun ohono ar draeth Bae Colwyn yn ddwy flwydd oed ym 1944.

Cafodd Terry Jones, sy'n noddwr i'r theatr, ei eni ym Mae Colwyn a bydd yr arddangosfa yn yr oriel tan ddydd Gwener Gorffennaf 27.

Pan fydd yn cael ei datgymalu bydd cyfle i grwpiau gymryd y darnau i ffwrdd ac ychwanegu atyn nhw.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol