Damwain: Anafiadau difrifol
- Cyhoeddwyd

Roedd tri cherbyd yn y ddamwain
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi dweud yr aed â gyrrwr ag anafiadau difrifol i'r ysbyty wedi damwain nos Fawrth.
Roedd ffordd yr M4 i gyfeiriad y gorllewin ynghau am gyfnod wedi'r ddamwain ger Ail Bont Hafren.
Mae'r gyrrwr yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd.
Roedd tri cherbyd yn y ddamwain rhwng Cyffordd 22 (M49) a Chyfordd 23 (M48 Magwyr).
Dywedodd Asiantaeth y Priffyrdd fod y ddamwain ger y man casglu tollau.