Beiciwr modur o Lanbradach wedi marw
- Cyhoeddwyd

Roedd y ddamwain am 5.50pm
Mae beiciwr modur 31 oed wedi marw oherwydd damwain ger Ail Bont Hafren nos Fawrth.
Dywedodd yr heddlu fod y dyn o Lanbradach ger Caerffili a bod gwrthdrawiad rhwng ei feic modur a fan am 5.50pm.
Chafodd neb arall ei anafu.
Roedd ffordd yr M4 i gyfeiriad y gorllewin ynghau am gyfnod wedi'r ddamwain rhwng Cyffordd 22 (M49) a Chyfordd 23 (M48 Magwyr).
Dywedodd Asiantaeth y Priffyrdd fod y ddamwain ger y man casglu tollau.
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio 01633 642404.