Rhybudd o law trwm dros y dyddiau nesaf

  • Cyhoeddwyd

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn galw ar bobl i fod yn wyliadwrus oherwydd cyfnod o law trwm.

Yn ôl llefarydd bydd cawodydd trwm dros nos nos Fercher, dydd Iau a dydd Gwener gan greu risg o lifogydd lleol.

Mae gofyn i bobl gadw golwg ar ffosydd a gwteri.

"Er bod lefelau afonydd wedi codi o ganlyniad i law diweddar does dim disgwyl iddynt godi i lefelau fyddai'n achosi llifogydd," meddai'r llefarydd

Mae rhybudd i bobl gymryd gofal wrth yrru.

Ceir rhagor o wybodaeth ar y llinell llifogydd 0845 988 1188 neu ar wefan yr asiantaeth.

Dydd Mercher bu un lôn o'r A470 i'r gogledd o Drefforest ger Pontypridd ar gau oherwydd llifogydd ger yr A4054.

Cafodd rhybudd melyn am law trwm ei gyhoeddi ar draws de a dwyrain Cymru.

Roedd disgwyl gwyntoedd i hyrddio ar tua 50 m.y.a.

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol