Un o benaethiaid MI6 yn dweud ei fod yn difaru
- Cyhoeddwyd

Mae un o benaethiaid gwasanaeth cudd MI6 wedi dweud ei fod yn difaru peidio ag ymateb yn gynt pan aeth Gareth Williams yn absennol o'i waith.
Yn ystod y cwest i farwolaeth Mr Williams cafwyd tystiolaeth hefyd gan ei gyn-letywraig lle bu'r ysbïwr yn byw.
Dywedodd Jennifer Elliot ei bod wedi ei ganfod unwaith wedi ei glymu i'w wely ac yn gwisgo ei ddillad isaf.
Cafodd corff noeth Mr Williams, 31 oed o Ynys Môn, ei ddarganfod wedi'i gloi mewn bag chwaraeon yn ei fflat yn Pimlico ar Awst 23, 2010 ond er gwaethaf archwiliad post mortem ni chafodd achos marwolaeth ei gadarnhau.
Dydd Mercher dywedodd un o benaethiaid MI6 ei fod yn tybio bod Mr Williams yn dal ar drên pan fethodd â mynychu cyfarfod saith niwrnod cyn i'w gorff gael ei ddarganfod yn y fflat.
Gofynnodd y crwner Fiona Wilcox pam na wnaeth y dyn, na ellir ei enwi, holi ymhellach am yr absenoldeb.
"Mae yna wahaniaeth rhwng bod yn hwyr i gyfarfod a methu cyfarfod," meddai'r crwner.
Absennol
Roedd y pennaeth, gafodd ei adnabod fel Tyst G, yn rhoi ei dystiolaeth y tu cefn i sgrin las.
"Wrth edrych yn ôl, a gwybod yr hyn yr wyf nawr yn ei wybod, a ddylwn i wedi ymateb? Yn bendant, dylwn," meddai.
Roedd rhai yn MI6 yn amau am ddiwrnodau fod Mr Williams yn pacio er mwyn dychwelyd i'w hen swydd yn GCHQ neu yn gweithio o'r fflat.
Dywedodd y crwner: "Rwy'n ei chael hi'n anodd deall pan na wnaethoch chi ymateb yn gynt."
Clywodd y cwest nad oedd Mr Williams wedi bod yn absennol o'i waith tan iddo fynd ar goll ym mis Awst 2010.
Bore Mercher cafodd tystiolaeth ysgrifenedig ei chyflwyno gan berchennog y llety lle bu Mr Williams yn byw yn Cheltenham.
Dywedodd Mrs Elliot iddi glywed rhywun yn galw am help yn oriau mân y bore.
Cafodd hyd i Mr Williams yn ei ddillad isaf ar ôl iddo glymu ei hun i'r gwely.
Roedd Mr Williams wedi dweud ei fod yn ceisio gweld a oedd yn gallu rhyddhau ei hun ond roedd hi o'r farn fod y weithred yn un rhywiol.
Trwyadl
Dywedodd fod Mr Williams wedi cywilyddio ac iddo ymddiheuro am y digwyddiad.
Clywodd y cwest dystiolaeth swyddog heddlu oedd o'r farn nad oedd marwolaeth Mr Williams yn gysylltiedig â'i waith gyda'r gwasanaethau cudd.
Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Michael Broster fod yr ymchwiliad i farwolaeth Mr Williams wedi bod yn gwbl drwyadl ac nad oedd yna unrhyw ddylanwadu o'r tu allan.
Mae Mr Broster yn swyddog SO15, uned gwrthderfysgaeth Heddlu Llundain.
Dywedodd ei fod o'r farn nad oedd unrhyw gysylltiad hyd yn hyn wedi ei ddarganfod rhwng y farwolaeth a gwaith Mr Williams gydag MI6.
SO15 oedd yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth i'r ymchwiliad i farwolaeth Mr Williams.
Offer electroneg
Cafodd cyfrifiaduron Mr Williams eu cymryd o MI6 bedwar diwrnod ar ôl ei farwolaeth ac o ganolfan glusfeinio GCHQ chwe diwrnod ar ôl ei farwolaeth.
Dywedodd Mr Broster y cwest nad oedd unrhyw reswm i gredu bod rhywun wedi "amharu" ar dystiolaeth gafodd ei chymryd o bencadlys MI6.
"Ni allaf ddweud yn bendant nad oedd ymyrraeth ag offer electroneg o MI6 ond does gennyf ddim rheswm i feddwl bod hynny wedi digwydd."
Dyw heddlu Scotland Yard heb benderfynu achos marwolaeth Mr Williams na chwaith wedi penderfynu ai ef wnaeth gloi'r bag.
Gwahanol
Clywodd y cwest hefyd gan un o ffrindiau Mr Williams, Elizabeth Guthrie.
Dywedodd hi fod Mr Williams yn defnyddio enw gwahanol pan oedd yn ei galw ac, yn aml, yn defnyddio ffonau gwahanol.
Ychwanegodd nad oedd hi'n credu bod y dillad menywod y cafwyd hyd iddyn nhw yn ei fflat ar gyfer ei ddefnydd personol.
"Fy marn yw nad oedd Gareth yn gwisgo dillad merched ... fyddai ganddo fo ddim diddordeb."
Dywedodd fod Mr Williams "mewn hwyliau da fel arfer" y tro diwethaf iddi siarad af o ond ei fod yn edrych ymlaen at adael Llundain.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd27 Awst 2010
- Cyhoeddwyd26 Awst 2010
- Cyhoeddwyd26 Awst 2010
- Cyhoeddwyd25 Awst 2010