Taith Jiwbilî Y Frenhines wedi cychwyn gyda gwasnaeth yn Llandaf
- Cyhoeddwyd

Mae'r Frenhines wedi cychwyn ei thaith ddeuddydd yng Nghymru fel rhan o ddathliadau'r Jiwbilî Ddiemwnt.
Fe wnaeth hi a Dug Caeredin gychwyn yr ymweliad gyda gwasanaeth yn Eglwys Gadeiriol Llandaf i nodi 60 mlynedd ers dechrau ei theyrnasiad.
Roedd cannoedd o bobl yn bresennol yn y ddinas i'w chroesawu gan gynnwys plant ysgol gyda'u baneri.
Dyma bedwerydd ymweliad Y Frenhines a'r Eglwys Gadeiriol ac roedd y gwasanaeth o dan arweiniad Deon Llandaf, John Lewis ac fe gafwyd anerchiad gan Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan.
Roedd hi yn bresennol mewn gwasanaeth yno yn 1960 i nodi gwaith adfer yr Eglwys wedi cyrchoedd yr Ail Ryfel Byd.
Canmolodd Yr Archesgob Y Frenhines am nad oedd yn anwybyddu rôl ffydd ym mywyd pobl Gwledydd Prydain.
Fe wnaeth o ganmol Y Frenhines am ei hymrwymiad i wasanaethu'r genedl.
Roedd dros 600 o bobl yn bresennol yn y gwasanaeth gan gynnwys cynrychiolwyr gwleidyddol, ac eithrio Leanne Wood arweinydd Plaid Cymru, wnaeth wrthod y gwahoddiad.
Protest
"Llongyfarchiadau i'r Frenhines wrth iddi ddathlu 60 mlynedd," meddai Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, wrth annerch y gynulleidfa.
"Dwi'n siŵr bod pobl Cymru yn rhoi'r croeso cynnes iddi wrth iddi hi gychwyn ar ei hymweliad â Chymru i ddathlu'r Jiwbilî Diemwnt."
Y tu allan i'r Eglwys fe wnaeth rhai o aelodau Republic Wales brotestio yn galw am ddemocratiaeth yn hytrach na Brenhiniaeth.
Wedi'r gwasanaeth cafodd Y Frenhines a'r Dug ginio ym Mharc Margam o fwyd Cymreig a chyfle i gyfarfod â thîm rygbi Cymru wnaeth ennill y Gamp lawn yn gynharach eleni.
Yno hefyd fe fyddan nhw'n gwylio gŵyl gymunedol a chael cinio yn Orendy'r parc cyn ymweld ag Ysgol Uwchradd Cyfarthfa ac Amgueddfa Castell Cyfarthfa ac Oriel ym Merthyr Tudful.
Yn yr amgueddfa fe fydd Y Frenhines yn gweld y chwiban stêm gyntaf, y blwch pleidleisio cyntaf a gwisgoedd gan Laura Ashley a Julien McDonald
Fe fyddan nhw hefyd yn gwylio gweithgareddau gan dîm achub mynydd lleol, sgowtiaid Merthyr Tudful a'r Comisiwn Coedwigaeth.
Yn ystod y dydd roedd tua 40 o bobl, yn anarchwyr aelodau o Gymdeithas yr Iaith a Chymru Goch yn Merthyr Tudful yn dangos eu gwrthwynebiad i'r ymweliad.
Dyma fydd unig ymweliad y ddau â Chymru fel rhan o'r dathliadau.
Fe wnaeth Y Frenhines a'r Dug gychwyn ar daith o amgylch y DU i nodi'r Jiwbilî ym mis Mawrth.
Fe fyddan nhw'n symud ymlaen i Aberfan, Glyn Ebwy a Pharc Glanusk ger Crughywel ddydd Gwener.
Aberfan
Fe fydd Y Frenhines yn agor Ysgol Gynradd Gymunedol Ynysowen yn Aberfan yn swyddogol.
Dyma fydd pedwerydd ymwelid Y Frenhines ag Aberfan ers trychineb yno ym mis Hydref 19
Caiff hyn ei weld fel arwydd o'i chefnogaeth barhaol i'r gymuned.
Cafodd 144 o bobl, gan gynnwys 116 o blant, eu lladd pan wnaeth tomen lo lithro lawr y mynydd gan gladdu ysgol, a thai cyfagos.
Yn ddiweddarach ddydd Gwener fe fydd Y Frenhines yn ymweld â chyn-weithwyr dur a gwirfoddolwyr amgueddfa sydd newydd ei adnewyddu, Y Swyddfeydd Cyffredinol, sydd erbyn hyn yn gartref i Archifdy Gwent.
Bydd y ddau yn mynychu gwasanaeth yn Eglwys Crist yn y dref ac yn cael derbyniad gyda grwpiau cymunedol.
Daw'r ymweliad i ben gyda gŵyl "Diemwntau yn y Parc" ym Mharc Glanusk.66.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2011