Cleifion am achub meddygfa
- Cyhoeddwyd

Mae Aelod Cynulliad Dyffryn Clwyd yn arwain ymgyrch i wrthwynebu cau meddygfa gymunedol.
Disgwylir i swyddogion iechyd gau meddygfa ym Modelwyddan, Sir Ddinbych ar ddiwedd y mis.
Ond mewn arolwg gafodd ei drefnu gan Ann Jones AC dywedodd 196 o bobl allan o 200 eu bod am wasanaeth lleol yn hytrach nag ymweld â meddygon mewn trefi eraill.
Dywed y Bwrdd Iechyd Lleol nad yw'r adeilad yn addas ar gyfer y gwasanaethau meddygol diweddaraf.
'Teuluoedd ifanc'
Bydd yn rhaid i gleifion ddefnyddio meddygfa yn Abergele, sydd bum milltir i ffwrdd, ar ôl i'r feddygfa gau ar Ebrill 30.
Dywedodd Mrs Jones ei bod "wrth ei bodd" â'r ymateb i'w holiadur.
Meddygfa Gwrych yn Abergele ofynodd i'r Bwrdd Iechyd i gael cau eu cangen ym Modelwyddan.
Dywed y Bwrdd iechyd iddynt gymeradwyo y cais n dilyn ystyriaeth fanwl ar ôl derbyn barn y cleifion ac yn dilyn trafodaethau â'r cyngor iechyd cymuned leol.
Dywedodd Mrs Jones y byddai'n anodd i gleifion deithio i Abergele, yn enwedig y rheiny gyda theuluoedd ifanc a phobl hŷn.
Fe wnaeth Mrs Jones gyfarfod â swyddogion y bwrdd i drafod canfyddiadau'r arolwg yr wythnos diwethaf.
"Mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd a meddygon teulu wrando ar bobl Bodelwyddan a gwrthdroi'r penderfyniad ar unwaith," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd: " Yr ymateb priodol yw cau meddygfa Fairhaven am nad yw hi'n addas ar gyfer y gwasanaethau meddygol diweddaraf.
"Mae'r bwrdd iechyd yn awyddus i sicrhau bod pobl sy'n byw ym Modelwyddan yn gallu cael at wasanaethau iechyd priodol ac fe fyddwn ni'n ystyried unrhyw bryderon sy'n cael eu lleisio."
Straeon perthnasol
- 10 Ebrill 2012
- 29 Chwefror 2012
- 20 Chwefror 2012