Jiwbilî Diemwnt: Hwb i fusnesau
- Cyhoeddwyd

Dywed rhai cwmnïau yng Nghymru eu bod yn disgwyl i'w helw gynyddu 20% oherwydd gŵyl y banc ychwanegol i ddathlu Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines.
Mae cwmnïau sy'n cynhyrchu nwyddau yn gysylltiedig gyda'r digwyddiad wedi gweld cynnydd yn eu harchebion.
Ond er y gallai rhai meysydd fel twristiaeth elwa, mae yna rybudd y gallai'r clwstwr o Wyliau Banc fod yn newidiol i'r economi.
Yn ôl Ffederasiwn Busnesau Bychain fe allai'r diwrnod ffwrdd o'r gwaith gostio £6bn i'r Deyrnas Unedig.
Platiau a mygiau
Dywed Barry Young o gwmni House and Gardens yng Nghaerdydd fod ei fusnes gwneud placiau wedi gweld cynnydd mewn gwerthiant.
"Fe wnes i sylwi bod pobl yn talu lot o ddiddordeb mewn placiau coed ar gyfer y coedwigoedd Jiwbilî Diemwnt sy'n cael eu plannu ledled y Deyrnas Unedig. Yna cefais y syniad byddai'n dda i elwa o'r peth.
"O edrych ar y llyfrau mae'n bosib gweld fod y cynnyrch wedi arwain at gynnydd o 20% i'r busnes.
Un arall sy'n cynhyrchu nwyddau yn gysylltiedig â'r achlysur yw Kate Glanville o Fethlehem Sir Gaerfyrddin.
Mae hi'n cynllunio platiau a mygiau ac wedi gweld cynnydd mewn busnes.
"Ysgolion oedd yn cysylltu â gofyn am fygiau. Roeddynt eisiau rhywbeth byddai'r plant yn gallu uniaethu ag o, a theimlo'n rhan o'r diwrnod mawr."
'Caffis bychan'
"Rwy'n cael nifer o archebion, ac roedd yr un peth yn wir y llynedd ar gyfer y Briodas Frenhinol, mae pobl am rywbeth i'w gofio am yr achlysur, ac mae'r un peth yn wir eleni."
Hwn yw'r ail flwyddyn yn olynol i bobl Prydain gael diwrnod ychwanegol o'r gwaith.
Y llynedd cafwyd Gŵyl y Banc ychwanegol i ddathlu Priodas Tywysog William a Kate Middleton.
Roedd y diwrnod ychwanegol ychydig ar ôl y Pasg, gyda nifer o bobl yn archebu gwyliau estynedig.
Ond mae Ffederasiwn y Busnesau Bychain yn rhybuddio y gallai sefyllfa debyg eleni gostio £6bn i'r economi.
"Dyma'r ffigwr mae angen edrych arno fel cost i'r economi, pe bai ni'n cael yr un sefyllfa eleni," meddai Iestyn Davies, o Ffederasiwn Busnesau Bychain Cymru.
"Mae'r ochr gynhyrchu nwyddau yn cael problem - mae'r gost yn cynyddu pan rydych yn cyflogi staff dros benwythnos Gŵyl y Banc.
"Mae hyd yn oed caffis bychan yn cael eu heffeithio - mae pobl yn hoffi tal ychwanegol am weithio Gŵyl y Banc, a dyw hynny ond yn iawn."
Ond yn ôl yr athro Brian Morgan o Ysgol Fusnes Caerdydd, mae'r broblem yn codi nid oherwydd y diwrnod ychwanegol ond oherwydd y clwstwr o Wyliau Banc.
Mae yna duedd i roi clwstwr o'r gwyliau adeg y Pasg, Mai a Mehefin - ac mae hynny'n gallu amharu ar fusnesau.
Ond pwysleisiodd mai "bach iawn iawn " yw'r effaith y bydd un diwrnod ychwanegol yn ei gael.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2012