Dyn ar goll: Heddlu'n apelio

Matthew Williams Image copyright Other
Image caption Cafodd Matthew Williams ei weld diwethaf tua 5pm ddydd Mercher

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am help i ddarganfod dyn sydd ar goll yn ardal Bangor.

Cafodd Matthew Williams, 18 oed, ei weld diwethaf yn ardal Ffordd Caernarfon ym Mangor tua 5pm ar ddydd Mercher Ebrill 25.

Mae Mr Williams yn cael ei ddisgrifio fel person tenau cyhyrog sy'n 5' 11" o ran taldra, gyda gwallt brown byr.

Pan gafodd ei weld diwethaf roedd yn gwisgo 'hoodie' gwyrdd a jîns glas.

Dylai unrhywun â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.