Mewn Llun: Ail ddiwrnod Y Frenhines yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Cychwynnodd Y Frenhines ei hymweliad â Chymru yn Aberfan ddydd Iau wrth ddychwelyd yno am y pedwerydd tro ers trychineb 1966

Roedd cannoedd o blant yr ysgol yn falch o groesawu'r Frenhines a Dug Caeredin
Derbyniodd Y Frenhines lyfr am Aberfan gan Jeff Edwards, y plentyn olaf i gael ei achub o'r rwbel yn 1966
Wedi agor yr ysgol gynradd newydd yn Aberfan yn swyddogol fe wnaeth y Frenhines a Dug Caeredin i Lyn Ebwy ar gyfer gwasanaeth a gweld amgueddfa sydd newydd ei hadnewyddu, Y Swyddfeydd Cyffredinol lle mae Archifdy Gwent.
Cafodd Y Frenhines gyfle i gyfarfod cyn-weithwyr dur Glyn Ebwy a gwirfoddolwyr yn yr Amgueddfa newydd
Bu'r Frenhines hefyd yn siarad gyda rhai o'r bobl oedd wedi dod allan yn y glaw i'w gweld yng Nglyn Ebwy